Rebekah Brooks (ar y dde) gyda Rupert Murdoch
Daeth cadarnhad mai cyn-Brif Weithrewr cwmni cyfryngau News International, Rebekah Brooks, sydd wedi ei harestio gan yr heddlu, mewn cysylltiad â honiadau o lygredd a hacio ffonau gan bapur Sul The News of the World.

Ond mae heddlu Scotland Yard eto i gadarnhau enw’r wraig 43 mlwydd oed y maen nhw wedi ei disgrifio fel gwraig 43 mlwydd oed a gafodd ei harestio tua hanner dydd heddiw mewn gorsaf heddlu yn Llundain.

Fe ymddiswyddodd Ms Brooks ddydd Gwener.