News of the World - mae'r sgandal hacio ffonau symudol yn parhau
Mae gwraig 43 mlwydd oed wedi cael ei harestio heddiw, mewn cysylltiad â honiadau o lygredd a hacio ffonau, yn ôl datganiad gan Scotland Yard.news

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn dweud fod y wraig – sydd heb ei henwi – wedi ei harestio trwy apwyntiad mewn gorsaf heddlu yn Llundain tua hanner dydd heddiw. Mae’n dal i fod yn y ddalfa.

Dyma’r digwyddiad diweddara’ yn hanes sgandal hacio ffonau symudol papur, a arweiniodd at gau i lawr bapur Sul The News of the World.