Arfordir Essex
Mae ymgais i ffrwydro’n ddiogel hen fom o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, wedi cael ei effeithio gan y tywydd gwael. Fe ddaethpwyd o hyd i’r ddyfais, sy’n pwyso 2,000 pwys, ar waelod y môr oddi ar arfordir Essex fore Gwener.  

Roedd deifwyr wedi bod yn trio gosod y bom ar lwyfan tanddwr ddoe, ond fe ‘gollon’ nhw olwg arni oherwydd yr amodau anodd. Y bwriad oedd ei symud oddi ar y llong a ddaeth o hyd iddi, yn ôl i waelod y môr er mwyn ei ffrwydro’n ddiogel.

Yn ôl llefarydd ar ran y llynges, mae gwyntoedd cryfion ac amodau gwael ar y môr agored, yn ei gwneud hi’n anodd iawn deifio yn yr ardal heddiw.

“Mae’n ymddangos yn llai a llai posib y byddwn ni’n gallu deifio heddiw,” meddai’r llefarydd, a fu ddoe’n gwadu adroddiadau fod y Llynges Frenhinol wedi ‘colli’ y ddyfais.

“Maen nhw’n gwybod yn iawn lle mae’r bom,” meddai wedyn. “Pan mae’n ddiogel iddyn nhw wneud hynny, fe fyddan nhw’n deifio i lawr at y bom, ac yn ei gosod hi’n ddiogel ar wely’r môr.

Mae cychod a llongau yn cael eu rhwystro rhag mentro o fewn milltir i’r ardal lle mae’r bom.