Mae treulio amser gyda'r ddau riant yn bwysig i blant
Mae rhieni sydd wedi gwahanu yn defnyddio eu plant er mwyn cael y gorau ar ei gilydd yn ystod gwyliau’r ha’, yn ôl cyfreithwyr teulu.

Mae un o’r prif gwmnïau twrneiod teulu yng ngwledydd Prydain yn dweud fod hyd at dri chwarter y ffraeo tros lle’n union mae plant yn aros, neu faint o amser y mae plant yn ei dreulio gyda’r naill a’r llall o’i rieni, yn digwydd oherwydd perthynas newydd un neu’r ddau o’r rhieni.

Yn ôl y cwmni Pannone o Fanceinion, mae’r rhan fwya’ o gwynion sy’n cael eu cofnodi gan rieni yn digwydd oherwydd eu bod nhw’n poeni y bydd y plentyn yn dod i hoffi partner newydd y rhiant arall yn fwy na nhw.

“Mae’r ffaith bod plant yn treulio mwy o amser gyda’u rhieni dros gyfnod gwyliau’r ha’, yn cynyddu’r cyfle o ddod i nabod partner newydd eu mam neu eu tad yn well,” meddai’r gyfreithwraig Cara Nuttall o gwmni Pannone. “Mae’n bownd o achosi tyndra a phroblemau.

“Mae’r sefyllfaoedd hyn yn rhai mor emosiynol, nes bod rhieni, weithiau, yn methu ag ymddwyn yn gall nac yn rhesymol.”

Mae Pannone yn dweud fod hyd at 30% o gwynion ynglyn â lle mae plant yn aros, neu faint o amser y maen nhw’n ei dreulio gyda’r ddau riant, yn rhwystro ambell riant rhag dechrau eto gyda phartner newydd.