Mae siopwyr yn gwario llai... ond mae Land Securities am godi mwy o siopau
Mae cwmni eiddo mwya’ gwledydd Prydain ar fin bwrw ymlaen â chynllun gwerth £275m i godi canolfannau siopau newydd – er gwaetha’r dirwasgiad.

Mae cwmni Land Securities â’u bryd ar saith o brosiectau newydd yn ne-ddwyrain Lloegr ac yng Nghanolbarth Lloegr ar ran cwmnïau fel Primark a Sainsbury’s, yn ôl erthygl ym mhapur y Sunday Times heddiw. Fe fydd y siopau newydd yn gorchuddio arwynebedd o filiwn o droedfeddi sgwar, ac yn cyflogi 1,000 o bobol.

Mae’r cynlluniau’n dangos fod rhai cwmnïau’n dal yn fodlon ehangu, er bod cadwynau fel HMV, Mothercare, JJB Sports a Thorntons yn ystyried cau siopau.

Mae Land Securities, wedi codi siopau sy’n gorchuddio dros 20.6 miliwn o droedfeddi sgwar, mewn 25 o ganolfannau siopau ac 20 parc siopa – yn cynnwys Canolfan Dewi Sant yng Nghaerdydd, canolfan White Rose yn Leeds, a 50% o siâr yn Cabot Circus, Bryste.

Mae’r cynlluniau newydd yn cynnwys siop Primark newydd yng Nghaint, datblygiad newydd Tesco yn Taplow, estyniad i barc manwerthu yn Derby, estyniad i siop Sainsbury’s yn Wandsworth, a siop newydd i Morrisons yn Crawley.