Ed Miliband
Mae’r arweinydd Llafur wedi galw am reolau newydd i atal neb rhag cael yr un math o rym tros y wasg a’r cyfryngau ag sydd gan Rupert Murdoch.

Yn ôl Ed Miliband, mae angen cytundeb rhwng y pleidiau i wneud yn siŵr nad oes neb yn gallu bod yn berchen ar fwy nag 20% o’r farchnad bapurau newydd a sianeli teledu a newyddion teledu.

“Os ydych chi am leihau’r camddefnydd o rym, yna mae’r math yna o grynhoi grym yn beryglus,” meddai mewn erthygl ym mhapur yr Observer. “Mae gan Rupert Murdoch ormod o afael ar fywyd gwledydd Prydian.”

Yn y cyfamser, mae Rupert Murdoch wedi cyhoeddi hysbysebion mewn nifer o bapurau dydd Sul i ymddiheuro am weithredoedd newyddiadurwyr y News of the World yn hacio i filoedd o ffonau symudol.

Mae rhai o ffigurau amlwg y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi galw ar y corff craffu, Ofcom, i ystyried a yw cwmni Rupert Murdoch yn addas i fod yn berchen ar draean o’r cwmni teledu BSkyB.