David Cameron - Downing Street yn datgelu cyfarfodydd â News International
Roedd estyn gwahoddiad i Andy Coulson i Chequers ar ôl iddo ymddiswyddo o fod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu y Prif Weinidog, yn “beth normal, dynol” i’w wneud, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague heddiw.

Dywedodd Mr Hague nad oedd yn teimlo “unrhyw embaras” oherwydd perthynas llywodraeth San Steffan ag uchel swyddogion cwmni News International, ac fe aeth yn ei flaen i amddiffyn y Prif Weinidog David Cameron am estyn gwahoddiad i Mr Coulson, cyn-olygydd papur Sul News of the World ym mis Mawrth eleni.

Fe ymddiswyddodd Andy Coulson o Rif 10 ym mis Ionawr, wrth i straeon yn ymwneud â  hacio ffonau symudol ddechrau mynd ar led. Cafodd ei arestio – ac yna ei ryddhau ar fechniaeth – ar fater yr honiadau, yr wythnos ddiwetha’.

“Trwy wahodd Andy Coulson yn ôl, roedd y Prif Weinidog yn gwahodd rhywun yn ôl er mwyn diolch iddo am ei waith,” meddai William Hague ar raglen Today ar Radio 4 heddiw.

“Mae (Andy Coulson) wedi gweithio iddo am nifer o flynyddoedd, dyna beth normal a dynol i’w wneud. Dw i’n meddwl ei fod o’n dangos ochr bositif i’w gymeriad.”

 

Mwy o wledda

Mae Downing Street wedi datgelu hefyd fod Rebekah Brooks, a ymddiswyddodd ddoe  o fod yn Brif Weithredwr News International, wedi bod yn gwledda gyda’r Prif Weinidog yn Chequers ddwywaith y llynedd – unwaith yn ystod mis Mehefin, ac wedyn yn Awst.

Yn ôl dyddiadur y Prif Weinidog, fe fu James Murdoch hefyd yn Chequers ym mis Tachwedd. Fe gyfarfu Ms Brooks a Mr Murdoch â’r Prif Weinidog yn gymdeithasol wedyn ym mis Rhagfyr 2010. Ac, ar achlysur gwahanol, fe gyfarfu Rebekah Brooks eto â Mr Cameron yn ddiweddarach y mis hwnnw.

Roedd cyfarfodydd pellach wedi eu trefnu rhwng David Cameron a golygyddion papurau newydd News International newspapers – sef The Sun, The Times, News of the World a The Sunday Times.