Ivy Brown, wedi ei ddal ar gamera ar drên
Mae’r heddlu yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â mentro’n agos at ddyn sydd wedi mynd ar goll ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

Mae’r awdurdodau yn ceisio dod o hyd i Ivy Brown, 31 oed,  a gafodd ei weld am y tro diwetha’ ar Broughton Street, Caeredin, ychydig wedi wyth y bore ar Orffennaf 9.

Cafodd ei ryddhau ar drwydded a gwarant, ac mae bellach dan orchymyn i ddychwelyd yn syth i ofal yr heddlu.

Y gred ydi fod Mr Brown wedi teithio i orsaf King`s Cross Station yn Llundain, a’i fod bellach yn byw yn ardal Llundain. Ond mae’r heddlu hefyd yn awgrymu y gallai fod yn ardal Luton, lle mae ganddo nifer o ffrindiau a chydnabod.  

Disgrifiad

Mae Ivy Brown yn ddyn croenddu, 5troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt byr yn steil ‘dreadlocks’, corff byr a chryf, a dau ddant blaen aur.

Mae ganddo nifer o luniau ar ei gorff, gan gynnwys tatw ar ei law chwith sy’n dweud ‘done one’.

Peryglus

Mae llefarydd ar ran Heddlu Lothian yn rhybuddio ei fod yn ddyn peryglus, ac y gallai ei ryddhau fod yn risg i ddiogelwch y cyhoedd os y bydd ei iechyd meddwl yn dirywio ymhellach.

“Ein cyngor ni ydi i aelodau’r cyhoedd beidio â thaclo Mr Brown, ond i gysylltu â’u heddlu lleol,” meddai’r llefarydd.