Arfordir Essex
Mae’r Llynges wedi colli bom 60 oed sy’n pwyso dros 2000 pwys, wrth drio ei ffrwydro hi’n ddiogel.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r ddyfais rhyw wyth milltir forol o arfordir Essex bore ddoe, gan gwch oedd yn glanhau gwely’r môr.

Fe fu deifwyr y Llynges Frenhinol yn chwilio am y bom, ond fe gollon nhw’r ddyfais wrth drio ei gosod ar uned arbennig i’w harnofio hi i wyneb y môr.

“Roedden nhw wrthi’n gollwng y bom i lawr, roedd yr amodau’n reit wael, ac fe gollon nhw’r bom,” meddai llefarydd.

“Fe garion nhw ymlaen i ddeifio er mwyn chwilio amdani, ond maen nhw wedi gorfod dychweyd i’r lan erbyn hyn.

“Doedden nhw ddim wedi llwyddo i wneud dim byd i’r bom,” meddai wedyn. “Mae’n ofid, ond wnaethon nhw ddim trio ffrwydro’r ddyfais.”

Mae disgwyl iddyn nhw ail-ddechrau chwilio am y bom tua 6.30pm heddiw.