Insiwlin wedi ei chwistrellu yn fwriadol i stoc dwr a halen dwy ward yn Stockport
 Mae detectifs sy’n ymchiwlio i dair marwolaeth mewn ysbyty, yn bwriadu holi 11 o gleifion a oroesodd ymgais i’w lladd nhwthau.

Bu farw gwraig 44 mlwydd oed o’r enw Tracey Elizabeth Arden; gwr 71 oed a gwr arall 84 mlwydd oed, wedi i rywun fynd ati’n fwriadol i wenwyno bagiau yn cynnwys dwr a halen yn Ysbyty Stepping Hill yn Stockport.

Daethpwyd o hyd i’r hormon insiwlin mewn 36 o fagiau mewn storfa ger Ward A1, wedi i nyrs dynnu sylw at nifer fawr o gleifion ar ei ward oedd â chyfri’ isel iawn o siwgwr yn eu gwaed.

Bu farw Tracey Elizabeth Arden ar Orffennaf 7, a bu farw’r ddau wr arall, yr wythnos hon.

Yn y cyfamser, mae’r ysbyty wedi gosod mwy o swyddogion diogelwch ar waith, er mwyn gwneud yn siwr na fydd mwy o gleifion yn cael eu heffeithio.

Mae detectifs yn credu bod yr insiwlin wedi ei chwistrellu’n fwriadol i’r stoc o gymysgedd dwr a halen a oedd yn cael ei ddefnyddio ar o leia’ dwy o wardiau’r ysbyty. Er hynny, meddai’r heddlu, mae’r ymchwliad yn parhau tra’u bod nhw’n aros canlyniadau post mortem.