Pencadlys heddlu Scotland Yard
Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill wedi i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth heddiw.
Cafodd y gwr 30 mlwydd oed ei drywanu ychydig cyn 4 o’r gloch y bore yn ardal Edgware, gogledd Llundain.
“Fe gafodd swyddogion eu galw tua deng munud i bedwar gan Wasnanaeth Ambiwlans Llundain ar ôl i ddyn tua 30 mlwydd oed wedi cael ei drywanu yn Watling Avenue, Edgware,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain.
“Fe aeth swyddogion i’r ty, ac fe gyhoeddwyd fod y dyn yn farw. Rydyn ni wedi dechrau gwneud ymholiadau, a dydyn ni eto ddim wedi cysylltu â’i deulu agosaf.”
Does neb wedi cael ei arestio hyd yma, yn ôl y llefarydd, ac fe fydd adran Serious Crime Command, Scotland Yard, yn gyfrifol am yr ymchwiliad.