Rupert Murdoch (David Shankbone CCA 3.0)
Mae cwmni News Corp wedi gwario ar dudalennau cyfan o hysbysebion mewn saith o bapurau Prydeinig – er mwyn ymddiheuro am y sgandal hacio ffonau.
Yn y rheiny, mae pennaeth y cwmni, Rupert Murdoch, yn ymddiheuro am y gofid sydd wedi ei achosi gan yr helynt ac am fod mor araf yn delio â’r broblem.
Mae wedi addo dweud mwy i egluro sut y mae’r cwmni’n bwriadu gwneud iawn am y niwed ac fe fydd rhagor o hysbysebion yn y papurau mawr fory a ddydd Llun.
Mae’r rheiny’n cynnwys hysbysebion ym mhapurau’r Daily Mail a’r Mail on Sunday, sy’n debyg o elwa fwya’ ar ôl diflaniad y News of the World.
Mae’r wasg arbenigol yn awgrymu bod cwmni’r Mail yn ystyried lansio papur tabloid newydd ar y Sul i fanteisio ar hynny.
Dau bennaeth yn mynd
Fe ddaw’r hysbysebion ar ôl i ddau o benaethiaid cwmnïau Rupert Murdoch ymddiswyddo – Rebekah Brooks o’i swydd yn Brif Weithredwr News International yng ngwledydd Prydain a Les Hinton o fod yn bennaeth cwmni Dow Jones yn yr Unol Daleithiau.
Ddoe, fe fu Rupert Murdoch ei hun yn ymddiheuro i deulu Milly Dowler, y ferch yr oedd newyddiadurwyr y News of the World wedi hacio i negeseuon ei ffôn symudol ar ôl iddi gael ei llofruddio.