Dylid targedu arian y Llywodraeth at helpu ysgolion gwael yn hytrach na’r rheiny sy’n gwneud yn dda, yn ôl Ed Miliband.

Roedd Arweinydd y Blaid Lafru Brydeinig yn ymweld ag Academi Gymunedol Darwen Aldridge yn Nwyrain Swydd Gaerhirfryn heddiw, pan ddywedodd nad oedd y glymblaid yn canolbwyntio digon ar ddod â safonau ysgolion sy’n methu i fyny at safonau’r gorau.

 Cafodd yr academi – sy’n ysgol annibynnol wedi ei hariannu’n rhannol gan y llywodraeth – ei hagor ym mis Medi 2008 ar safle Ysgol Uwchradd Darwen Moorland, cyn symud i’r safle newydd yn ganol y dref fis Medi diwethaf.

 Mae’n adeilad modern, sy’n rhoi addysg i 850 o fyfyrwyr, ac yn arbenigo mewn entrepreneuriaeth – egwyddor sy’n ganolog i’r cwricwlwm.

 Dywedodd Ed Miliband mae’r broblem oedd “bod y syniad yma o gael academïau wedi cael ei gyflwyno i ysgolion lle’r oedd popeth arall wedi ei drio, a dyma’r syniad newydd.

 “Mae hyn yn ymwneud â rhoi arian i ysgolion sydd eisoes yn gwneud yn dda, a dydw i ddim yn siwr a’i dyna’r syniad cywir.

“Dw i’n meddwl mai’r hyn rydyn ni ei angen yw canolbwyntio’n iawn ar yr ysgolion hynny sydd un ai ddim yn gwneud yn dda neu sydd yn prin llwyddo o hyd – a’u codi nhw i safonau’r goreuon. Dyna’r peth pwysicaf.”

 Roedd yn canmol academi Darwen am fod yn “ysgol anhygoel” oedd hefyd yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned.

 Sefydlwyd elusen gan brif noddwr yr academi, Rod Aldridge, yn 2006 wedi iddo ymddeol o fod yn gadeirydd gweithredol ar fusnes Capita – cwmni a fu’n gyfrifol am ei sefydlu.

 Amcan y sefydliad yw rhoi meddylfryd entrepreneuraidd i’r myfyrwyr, gan ganolbwyntio ar rinweddau fel angerdd, penderfynoldeb, creadigrwydd, gwaith tîm, cymryd risgiau, a datrys problemau.

 “Mae’r academi o fantais fawr i’r plant am ei fod yn helpu gyda’u haddysg. Mae hefyd yn fantais enfawr i’r gymuned gan fod hwn yn fath gwahanol o ysgol, sydd yn pwysleisio hefyd ar oedolion sydd eisiau addysg yn yr ardal, a busnesau sy’n gallu lleoli eu hunain yma.

 “Mae hwn wir yn adnodd i’r gymuned gyfan, a dyna sy’n ei wneud yn ysgol mor llwyddiannus.”

Gwers i Flaenau Gwent?

 Daw sylwadau arweinydd gwrthblaid San Steffan ddyddiau’n unig ers i Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, orfod cymryd camau pellgyrhaeddol i reoli safon addysg Blaenau Gwent, wedi i arolwg Estyn nodi diffygion mawr yn y sir.

 Mae arolygwyr ysgolion Estyn yn dweud fod perfformiad addysg y sir yn ‘is na boddhaol’, ac mae Leighton Andrews wedi cyflwyno mesurau arbennig i ddelio â’r sefyllfa – gan dynnu cyfrifoldeb dros addysg o ddwylo’r cyngor sir.

 Mae’r arolygwyr wedi rhoi bai ar ‘ddiffyg arweiniad’ yn yr awdurdod addysg leol, sydd wedi methu â thaclo’r tangyflawni cyson.

 Mae’r ysgolion o fewn yr awdurdod addysg wedi bod ymhlith y gwaethaf yng Nghymru yn gyson dros y pedair blynedd ddiwethaf.

 Mae Blaenau Gwent bellach wedi cael 50 diwrnod i gynhyrchu cynllun gweithredu yn manylu sut i fynd i’r afael ag argymhellion Estyn.