Rebekah Brooks ar y dde
 Mae Rebekah Brooks wedi ymddiswyddo o’i gwaith yn Brif Weithredwr News International.

Bu’r pwysau’n cynyddu ar y cwmni yn sgil anhapusrwydd hysbysebwyr a gwleidyddion ynghylch y sgandal hacio ffonau symudol.

Fe ddatgelodd cyn-olygydd The Sun a The News of the World ei bod yn gadael y cwmni mewn e-bost mewnol i staff News International, sydd hefyd yn cyhoeddi The Times a The Sunday Times.

Yn ôl Ms Brooks, sy’n 43 oed, roedd hi’n rhoi’r ffidil yn y to er mwyn osgoi tynnu sylw oddi ar ymdrechion News International i “drwsio problemau’r gorffennol”.

Dyn o’r enw Tom Mockbridge fydd yn llenwi esgidiau Ms Brooks. Hyd yma ef oedd Prif Weithredwr Sky Italia.

Chris Bryant yn dwrdio

Daeth Rebekah Brooks yn gocyn hitio pan ddaeth hi i’r amlwg bod The News of the World, yn ystod ei chyfnod yn olygydd, wedi hacio fewn i ffôn Milly Dowler, y ferch ysgol gafodd ei llofruddio.

‘Mae fy awydd i barhau ar fwrdd y llong wedi fy ngwneud yn ganolbwynt y drafodaeth,’ meddai Ms Brooks yn yr e-bost ymddiswyddo i’r staff.

‘Yn awr mae hyn yn tynnu’r sylw oddi ar ein ymdrechion gonest i drwsio problemau’r gorffennol. Felly rwyf wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad i Rupert a James Murdoch. Tra’i fod yn destun trafod, y tro hwn mae fy ymddiswyddiad wedi ei dderbyn.’

Yn ôl Aelod Seneddol y Rhondda, sydd wedi arwain y cwynion ynghylch ymddygiad papurau cwmni News International, fe ddylai Ms Brooks fod wedi gadael yn gynharach.

“Credaf ei bod yn briodol ei bod yn mynd. Fe ddylai hi fod wedi gadael amser maith yn ôl,” meddai Chris Bryant wrth Sky News.

“I fod yn gwbwl blaen, fe ddyla ei bod hi wedi gadael nôl yn 2003 pan ddywedodd ei bod wedi talu swyddogion yr heddlu am wybodaeth.”

Ychwanegodd yr AS Cymreig bod rhoi’r fwyell i The News of the World wedi bod yn weithred “warthus”.

“Roeddwn o’r farn ei bod yn warthus pan gafodd papur newydd ei gau’r wythnos ddiwetha’ er mwyn ceisio amddiffyn Rebekah Brooks, ac yna Mr Murdoch yn dweud mai hi oedd ei flaenoriaeth. Roedd yn teimlo fel pe bae’r rhai hynny ar ddec isa’r llong yn cario’r can am y rhai hynny oedd wir wrth y llyw.”