Fe fydd gan ymchwiliad annibynnol i hacio ffonau symudol y grym i wysio perchnogion papurau newydd, newyddiadurwyr, yr heddlu a gwleidyddion.

Wrth gyhoeddi manylion yr ymchwiliad heddiw dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, y bydd yn rhaid i’r bobol sy’n cael eu galw i roi tystiolaeth wneud hynny yn gyhoeddus a thyngu llw.

Cyhoeddodd mai’r Arglwydd Ustus  Leveson fydd yn cadeirio’r ymchwiliad, a fydd yn ystyried moesegau a diwylliant cyfryngau Prydain.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried honiadau penodol am hacio ffonau symudol yn y News of the World, methiant ymchwiliad yr heddlu, a honiadau fod yr heddlu wedi derbyn taliadau gan y cyfryngau.

Dywedodd David Cameron wrth Dŷ’r Cyffredin y dylai’r rheini sy’n gyfrifol am hacio ffonau symudol gael eu herlyn.

Dywedodd y dylai ei gyn bennaeth cyfathrebu, Andy Coulson, gael ei erlyn os oedd o wedi dweud celwydd wrth honni nad oedd yn gwybod unrhyw beth am hacio ffonau symudol pan oedd yn olygydd ar bapur newydd y News of the World.

‘Camgymeriad’

Galwodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ar y Prif Weinidog ymddiheuro am wneud “camgymeriad erchyll” wrth benodi Andy Coulson yn bennaf cyfathrebu.

Croesawodd yr ymchwiliad gan ddweud y dylai fynd rhagddo cyn i wyliau’r haf Senedd San Steffan ddechrau ar 19 Gorffennaf.

“Mae pobol fel teulu’r Dowlers ac aelodau eraill o’r cyhoedd sy’n ddioddefwyr dieuog yn haeddu ymchwiliad llawn a cynhwysfawr,” meddai.

“Maen nhw angen i ni fwrw ymlaen â’r ymchwiliad, a chanfod y gwirionedd.”