Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi cynyddu’r pwysau ar Rupert Murdoch, trwy apelio arno i ailystyried ei gynnnig i ennill rheolaeth o’r cwmni darlledu BSkyB.

Apeliodd Nick Clegg ar berchennog News Corporation i “wneud y peth iawn a synhwyrol” ac ailfeddwl yn wyneb y datblygiadau diweddaraf yn sgandal hacio ffonau’r News of the World.

Mewn arwydd arall o bryder cynyddol gan y Llywodraeth ynghylch helynt News Corporation, fe ddaeth i’r amlwg fod y Gweinidog Diwylliant Jeremy Hunt am ysgrifennu at Ofcom a’r Comisiwn Cystadleuaeth i ofyn cyngor ynghylch cynlluniau’r cwmni i gymryd drosodd BskyB.

Mae disgwyl y bydd yn gofyn i’r rheoleiddiwr a yw’r digwyddiadau yn y News of the World yn effeithio ar hygrededd News Corp a’r ymrwymiadau yn mae’n ei roi fel rhan o’i gynnig.

Fe fydd yn gofyn hefyd a yw penderfyniad News Corp i gau’r News of the World yn rhoi achos pellach dros bryderon ynghylch lluosogrwydd cyfryngol.

Yn y cyfamser, mae gwerth cyfranddaliadau BskyB wedi syrthio ymhellach heddiw, gyda chwymp o 6% yn eu gwerth.