Brenin Sbaen
Mae dyn wedi ei arestio yn Swydd Gaergrawnt dan amheuaeth o geisio llofruddio Brenin Sbaen yn 1997.

Cafodd Eneko Gogeaskoetxea Arronategui, sydd o Sbaen yn wreiddiol, ei arestio yn oriau mân y bore. Y gred yw ei fod yn aelod o fudiad terfysgol Eta sy’n brwydro am annibyniaeth i Wlad y Basg.

Yn ôl y warant i’w arestio mae’n cael ei amau am gyfres o droseddau eraill, gan gynnwys cymryd rhan mewn giang arfog, terfysgaeth, bod yn berchen arfau, lladrad a ffugiad.

Mae heddlu Sbaen yn credu fod y dyn 44 oed wedi ffoi o’r wlad ym mis Hydref 1997 ar ôl ceisio llofruddio Brenin Sbaen.

Mae Eta wedi cael y bai am ragor na 800 o farwolaethau yn ystod eu hymgyrch 42 mlynedd yn Sbaen.

Mae’r awdurdodau yno wedi datgelu sawl cynllun i lofruddio’r Brenin Juan Carlos, etifeddodd yr orsedd yn 1975.

Fe fydd Eneko Gogeaskoetxea Arronategui yn ymddangos o flaen Llys Ynadon San Steffan yn hwyr ymlaen heddiw.