Glenn Mulcaire (PA/John Stillwell)
Mae’n bosib fod newyddiadurwyr y News of the World wedi hacio ffonau symudol perthnasau pobol gafodd eu lladd gan ymosodiadau terfysgol 7 Gorffennaf.

Mae’r heddlu wedi rhoi gwybod i deuluoedd rhai o’r dioddefwyr eu bod nhw’n rhan o’r ymchwiliad, wrth i Aelodau Seneddol baratoi i drafod y sgandal heddiw.

Ddoe cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw hefyd wedi cysylltu â rheini Holly Wells a Jessica Chapman, y ddwy ferch 10 oed o Soham gafodd eu llofruddio yn 2002.

Daw hyn wedi ymateb ffyrnig gan wleidyddion i’r honiad fod y News of the World wedi hacio i mewn i ffôn y ferch ysgol Milly Dowler ar ôl iddi fynd ar goll.

Ddoe ymddiheurodd Glenn Mulcaire, ymchwilydd preifat oedd wedi ei gyflogi gan y papur newydd ddydd Sul, am hacio ffonau symudol.

Dywedodd ei fod yn flin ganddo am achosi unrhyw boen, ond doedd dim cyfeiriad uniongyrchol at unrhyw achos penodol.

Dioddefwyr

Neithiwr cadarnhaodd ffynonellau o fewn yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd fod “amryw” o deuluoedd pobol fu farw ar 7 Gorffennaf, 2005, wedi eu heffeithio.

Roedd Graham Foulkes, gollodd ei fab 22 oed David yn yr ymosodiad, yn un o’r rheini.

Dywedodd wrth BBC News fod y syniad fod rhywun wedi gwrando ar ei negeseuon ffôn symudol yn “afiach”.

Hysbysebu

Mae’n debygol y bydd prif weithredwr News International, Rebekah Brooks, yn wynebu galwadau newydd i ymddiswyddo heddiw.

Dywedodd y newyddiadurwr, oedd yn olygydd y papur newydd ar y pryd, ei bod hi wedi ei “harswydo” gan y cyhuddiadau.

Neithiwr cyhoeddodd cwmni ceir Ford eu bod nhw’n bwriadu rhoi’r gorau i hysbysebu yn y News of the World.

Mae dau gwmni arall, sef Npower a Halifax, wedi dweud eu bod nhw’n ystyried gwneud yr un fath.

Dadl

Heddiw fe fydd Aelodau Seneddol yn cynnal dadl tair awr yn Nhŷ’r Cyffredin, er mwyn ystyried a ddylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r mater.

Daw’r ddadl wedi i Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, gyhuddo papur newydd y News of the World o “chwarae Duw â theimladau’r teulu”.