Milly Dowler
Mae rhieni’r ferch ysgol Milly Dowler wedi penderfynu cymryd camre cyfreithiol yn erbyn papur newydd y News of the World.

Daw hyn wedi adroddiadau fod ditectif preifat oedd yn gweithio i’r papur newydd wedi hacio ffôn Milly Dowler ar ôl iddi fynd ar goll.

Dywedodd Bob a Sally Dowler fod negeseuon ar ffôn eu merch wedi eu dileu yn ystod y diwrnodiau ar ôl iddi ddiflannu a bod hynny wedi rhoi gobaith iddyn nhw ei bod hi yn dal yn fyw.

Dywedodd y cyfreithiwr Mark Lewis y gallai’r gweithredoedd “gwarthus” fod wedi peryglu ymchwiliad yr heddlu.

Cysylltodd Scotland Yard â Bob a Sally Dowler gan roi gwybod iddyn nhw am y cyhuddiadau o hacio ym mis Ebrill, mis cyn achos llys y llofrudd Levi Bellfield.

Mewn datganiad dywedodd News International, cyhoeddwyr y papur newydd, fod y cyhuddiadau yn “destun pryder mawr” a’u bod nhw’n bwriadu cynnal eu hymchwiliad eu hunain.

Yr honiadau

yr honiad yw fod y ditectif preifat Glenn Mulcaire wedi cael gafael ar negeseuon ffôn Milly Dowler yn anghyfreithlon.

Cafodd hi ei chipio gan Levi Bellfield wrth iddi gerdded adref o’r ysgol yn Walton-on-Thames, Surrey, ym mis Mawrth 2002.

Dywedodd Mark Lewis o gwmni Taylor Hampton Solicitors fod News International wedi “pentyrru trallod ar ben trasiedi” i’r teulu.

“Mae’n warthus eu bod nhw’n barod i weithredu mewn modd mor ysgeler, fyddai wedi gallu peryglu ymchwiliad yr heddlu a rhoi gobaith ffug,” meddai.

Ychwanegodd fod Bob a Sally Dowler hefyd yn credu bod eu ffonau symudol nhw hefyd wedi eu targedu, yn ogystal â ffon eu merch.

Y cefndir

Cafodd Glenn Mulcairea a chyn-olygydd brenhinol y News of the World, Clive Goodman, eu carcharu ym mis Ionawr 2007 ar ôl i’r Old Bailey glywed eu bod nhw wedi cynllunio i hacio negeseuon ffôn cynorthwywyr i’r Teulu Brenhinol.

Roedd Andy Coulson, a ymddiswyddodd ym mis Ionawr o’i swydd yn llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron, yn ddirprwy-olygydd ar y News of the World adeg diflaniad Milly Dowler.