Milly Dowler
Mae’r llofrudd Levi Bellfield wedi ei gael yn euog heddiw o lofruddio’r ferch ysgol Milly Dowler.

Penderfynodd rheithgor yr Old Bailey fod Levi Bellfield, 43, yn euog o gipio a llofruddio’r ferch 13 oed.

Mae’r cyn-glampiwr ceir hefyd wedi ei gyhuddo o geisio cipio’r Rachel Cowles, oedd yn 11 oed ar y pryd, y diwrnod blaenorol ym mis Mawrth 2002.

Dyw’r rheithgor heb benderfynu a yw’n euog o’r cyhuddiad hwnnw eto.

Naw mlynedd i gael cyfiawnder

Mae hi wedi cymryd naw mlynedd i rieni Milly Dowler, Bob a Sally, gael cyfiawnder am farwolaeth eu merch, er bod y llofrudd yn byw 50 llath yn unig o’r man y ferch ysgol ei gweld am y tro olaf yn Walton-on-Thames, Surrey.

Cysylltodd Diana Cowles â’r heddlu pan gynigodd dyn mewn car coch lifft i’w merch – ond fe aeth tair blynedd heibio cyn i’r heddlu ei chyfweld am y mater.

Aeth Levi Bellfield ymlaen i ladd ddwywaith eto cyn iddo gael ei arestio gan heddlu Llundain, dwy flynedd yn ddiweddarach.

Corff mewn coedwig

Symudodd Levi Bellfield o’i fflat yn Walton-on-Thames y diwrnod ar ôl iddo lofruddio Milly Dowler, a gollwng ei chorff 25 milltir i ffwrdd yng nghoedwig Yateley Heath yn Swydd Hampshire.

Daethpwyd o hyd i esgyrn Milly Dowler chwe mis yn ddiweddarach gan bobol oedd allan yn pigo madarch. Roedd hi’n amhosib dweud erbyn hynny sut yn union y cafodd hi ei llad.

Aeth Levi Bellfield ymlaen i ladd Marsha McDonnell, 19, ac Amelie Delagrange, 22, a cheisio lladd Kate Sheedy, 18, yn 2004.

Digwyddodd pob un o’r ymosodiadau ger gorsafoedd bysiau ar y ffin rhwng Llundain a Surrey, heb unrhyw gymhelliad amlwg heblaw am gasineb tuag at ferched.

Cafodd Levi Bellfiedl ei garcharu am y troseddau rheini ym mis Chwefror 2008, a does dim disgwyl y bydd yn cael ei ryddhau.

Mae disgwyl y bydd yn derbyn dedfryd arall o oes am ladd Milly Dowler.