Mae’r Prif Weinidog wedi addo cyflwyno mesurau llymach er mwyn gwarchod perchnogion tai sy’n amddiffyn eu heiddo.

Bydd newidiadau i’r gyfraith o fewn y misoedd nesaf yn sicrhau ei fod yn iawn defnyddio “grym rhesymol” er mwyn amddiffyn eiddo neu berson rhag troseddwyr.

Daw hyn wedi i nifer o berchnogion tai gael eu carcharu ar ôl iddynt ymosod ar fyrgleriaid.

Dywedodd David Cameron y byddai’r mesurau yn “ei gwneud hi’n fwy clir na fydd perchnogion tai a siopau sy’n defnyddio grym rhesymol i amddiffyn eu hunain a’u heiddo yn cael eu herlyn”.

Daeth achos Tony Martin, y ffermwr o Norfolk, i sylw ymgyrchwyr cenedlaethol pan dderbyniodd oes yn y carchar am lofruddio’r lleidr 16 oed, Fred Burras.

Fe saethodd y bachgen, a’i ladd, wedi iddo dorri i mewn i’w fferm ddiarffordd ym mis Awst 1999.

Apeliodd yn erbyn y dyfarniad a chafodd ei ddedfryd ei leihau i ddynladdiad, ac fe dreuliodd tair blynedd yn y carchar.

Yn ragor diweddar dangosodd yr Arglwydd Brif Ustus “drugaredd” at ddyn a gafodd ei garcharu am ddefnyddio bat criced er mwyn curo tri lleidr a dorrodd i mewn i’w dŷ a bygwth ei deulu â chyllell.

Dywedodd Syr Paul Stephenson, Comisiynydd Heddlu’r Met, fod unrhyw un oedd yn fodlon peryglu eu bywydau eu hunain er mwyn mynd i’r afael â throseddwyr yn haeddu cael eu trin fel “arwyr”.

Mae’r ddeddf bresennol yn caniatáu i bobol “ddefnyddio grym rhesymol er mwyn diogelu eu hunain ac eraill”.

Ond mae’n anghyfreithlon i barhau i ymosod ar rywun sydd wedi ei daro’n anymwybodol, osod magl â’r nod o ddal neu niweidio rhywun yn fwriadol.