Chris Bryant
Mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi ennill yr hawl i gael adolygiad barnwrol yn achos ffonau symudol y News of the World.

Roedd Chris Bryant a thri arall, gan gynnwys y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott, wedi gwneud cais i’r Uchel Lys am gael herio’r ffordd y mae Heddlu Llundain wedi delio â’r mater.

Heddiw, fe ddywedodd Barnwr y bydden nhw’n cael mynd ymlaen i gynnal gwrandawiad llawn – yn achos Chris Bryant, John Prescott a’r cyn bennaeth heddlu Brian Paddick, roedd y dystiolaeth yn dangos bod ganddyn nhw achos gwerth ei glywed.

Dyfarniad heddiw

Roedd y cais gwreiddiol wedi’i wneud bron bythefnos yn ôl ond heddiw yr oedd Mr Ustus Foskett yn cyhoeddi ei benderfyniad.

Mae Chris Bryant a’r lleill yn credu bod y papur newydd wedi torri i mewn i negeseuon ffonau symudol a bod yr heddlu wedi tramgwyddo’u hawliau dynol wrth ymdrin â’r mater.

Ar y dechrau, roedd yr heddlu wedi gwrthod ymchwilio’n llawn i’r honiadau – erbyn hyn mae’r News of the World eu hunain wedi cyfadde’ bod yr arfer o dorri i mewn i negeseuon ffonau symudol wedi digwydd yn gyson.