Brown - dim gobaith bellach
Mae’n ymddangos bod gobeithion Gordon Brown o ddod yn bennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol – yr IMF – wedi dod i ben.

Mae Llywodraeth Prydain wedi penderfynu dilyn esiampl yr Almaen ac enwebu Gweinidog Cyllid Ffrainc, Christine Lagarde, ar gyfer y swydd.

Roedd rhai wedi awgrymu mai’r cyn Brif Weinidog a ddylai ddilyn Dominique Strauss-Kahn sy’n wynebu cyhuddiadau o dreisio a throseddau rhywiol eraill yn yr Unol Daleithiau.

Ond, yn ôl y Canghellor, George Osborne, y Ffrances yw’r ymgeisydd “amlwg” i arwain y corff, sy’n gyfrifol am geisio rheoli cyfeiriad economi’r byd.

Christine Lagarde fyddai’r wraig gynta’ i arwain y corff ac mae rhai’n disgwyl y gallai gael ei phenodi cyn gynhared ddiwedd yr wythnos hon pan fydd gwledydd cyfoethog y G8 yn cyfarfod.