Chris Huhne
Mae’r Ysgrifennydd Egni, Chris Huhne, yn wynebu cur pen arall ar ôl honiadau ei fod wedi gwario mwy na sy’n gyfreithiol ar ei ymgyrch yn ystod yr Etholiad Cyffredinol.

Mae dau o gyn-gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei etholaeth yn Eastleigh, Hampshire, wedi gwneud cwyn swyddogol yn ei erbyn.

Cadarnhaodd y Comisiwn Etholiadol eu bod nhw wedi derbyn cwyn ei fod wedi gwneud “datganiad ffug” ar ei ffurflen gostau.

Mae’r honiad yn seiliedig ar recordiad o un o gyfarfodydd y blaid. Cafodd y trysorydd  Anne Winstanley ei chlywed yn dweud fod yr etholiad wedi “costio mwy nag yr oedden ni wedi ei ddatgan”.

Mae Chris Huhne wedi gwadu’r cyhuddiad, ac mae ei gynorthwywyr wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog nad oes sail i’r honiadau.

Serch hynny fe fydd cadarnhad y Comisiwn Etholiadol eu bod nhw wedi derbyn cwynion yn rhoi rhagor o bwysau ar yr Ysgrifennydd Egni.

Mae Heddlu Essex eisoes yn ymchwilio i honiadau ei fod wedi argyhoeddi ei gyn-wraig, Vicky Pryce, i dderbyn pwyntiau gyrru ar ei ran yn 2003.

Mae Chris Hunhe yn gwadu’r honiad hwnnw hefyd.

Recordio

Daw’r gwyn gan y cynghorwyr Glynn Davies-Dear ac Andy Moore. Roedd y ddau yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol cyn gadael y blaid ym mis Ionawr.

Dywedodd Andy Moore ei fod wedi recordio’r cyfarfod ym mis Mehefin y llynedd ar ei ffon er mwyn iddo allu cadw cofnod o beth gafodd ei ddweud.

“Mae’r Trysorydd yn dweud yn glir eu bod nhw wedi datgan mai £50,000 oedden nhw wedi ei wario, tra eu bod nhw mewn gwirionedd wedi gwario £60,000,” meddai.