Ed Miliband
Bydd rhaid i’r Blaid Lafur ysbrydoli pobol os ydyn nhw eisiau ail gipio grym yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, meddai Ed Miliband.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur fod y blaid wedi colli’r gallu i gynnig dyfodol gwell i bobol Prydain.
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Guardian, dywedodd fod angen i’r Blaid Lafur gynnig neges “gwladgarol, cadarnhaol” fyddai’n mynd yn groes i doriadau “pesimistaidd” y Ceidwadwyr.
“Roedd yn neges ni [yn yr etholiad diwethaf] yn seiliedig ar ofn, nid gobaith,” meddai.
“Doedd gan y blaid ddim gweledigaeth glir a chadarnhaol ar gyfer y wlad. Erbyn diwedd ein cyfnod mewn llywodraeth, roedden ni wedi colli’r gallu i edrych i’r dyfodol.”
Dywedodd na fyddai dynwared tactegau David Cameron – er enghraifft ei daith i’r Arctig – o geisio argyhoeddi pobol fod y blaid wedi newid ddim yn ddigon.
“Ni fydd tactegau arwynebol o’r fath er mwyn ceisio adfer enw da y blaid yn gweithio. Rydw i wedi wfftio’r rheini sy’n dweud fod angen i mi roi cwtsh i hwdi – neu hysgi.
“Yn yr etholiad cyffredinol nesaf mae’n rhaid i ni fod yn blaid optimistaidd, y blaid sydd â nod gwladgarol, cadarnhaol ar gyfer y wlad,” meddai.
“Bob tro yr ydyn ni wedi ennill buddugoliaeth fawr yn y gorffennol – yn 1945, 1964 a 1997 – roedden gennym ni weledigaeth ar gyfer dyfodol y wlad.
“Rhaid i ni wneud hynny eto.”