Alex Salmond

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi defnyddio’i fwyafrif clir i alw am ragor o bwerau i’r Llywodraeth yng Nghaeredin.

Yn ei araith gynta’ yn Senedd Holyrood ers yr etholiad, fe ddywedodd Alex Salmond bod rhaid i ASAau o bob plaid gymryd y cyfle i fynnu cael rhagor o rym.

Mae bellach yn galw am yr hawl i’r Alban reoli trethi ar alcohol a thybaco, am greu sianel deledu newydd i’r Alban ac am sedd mewn trafodaethau Ewropeaidd.

Mae hynny’n ychwanegol at ofyn am hawliau benthyg, am reoli’r dreth ar gwmnïau ac am feddiannu eiddo Ystadau’r Goron.

Mae hyn i gyd yn mynd ymhellach na’r hawliau ariannol newydd sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Prydain ac sy’n rhan o fesur cyfreithiol yno.

Yn ôl papur y Scotsman, mae’r Llywodraeth yn Llundain eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n gorfodi’r mesur hwnnw ar yr Alban, os bydd Senedd Holyrood yn erbyn.