Kenneth Clarke
Mae Ed Miliband wedi galw am ymddiswyddiad yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, ar ôl i hwnnw honni fod yn sawl categori gwahanol o dreisio.

Heriodd arweinydd y Blaid Lafur y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, ond dywedodd David Cameron nad oedd wedi clywed y cyfweliad ar y radio.

“Fe ddylai’r Prif Weinidog fynd i edrych ar sylwadau’r Ysgrifennydd Cyfiawnder a dweud na ddylai fod yn ei swydd erbyn diwedd y dydd,” meddai Ed Miliband.

Darllenodd Ed Miliband rai dyfyniadau o sylwadau Kenneth Clarke ar raglen Radio 5.

Roedd Kenneth Clarke wedi honni fod gwahaniaeth rhwng “treisio gorfodol” a “treisio difrifol,” meddai.

“Dyw’r Ysgrifennydd Cyfiawnder ddim yn cynrychioli barn merched y wlad yma wrth wneud sylwadau fel yna,” meddai Ed Miliband.

Dywedodd David Cameron mai swyddogaeth y llysoedd oedd penderfynu pa mor ddifrifol oedd y drosedd wrth ddedfrydu’r treisiwr.

“Beth sy’n bwysig yw gwneud yn siŵr fod rhagor o achosion yn cyrraedd y llys, gwneud yn siŵr fod rhagor o bobol yn cael eu dedfrydu, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael y ddedfryd gywir,” meddai.

“Dyna’r pryder pennaf.”