Mae’r Blaid Lafur wedi croesawu cynllun gan y Gweinidog Egni, Chris Huhne, i dorri allyriadau Ynysoedd Prydain 50% ar lefelau 1990 erbyn 2025.

Dywedodd Chris Huhne ei fod wedi derbyn cyngor arbenigwyr newid hinsawdd y Llywodraeth ynglŷn â faint o allyriadau y bydd yn bosib eu torri rhwng 2023 a 2027.

Mae’r cyhoeddiad yn fuddugoliaeth i Chris Huhne sydd wedi wynebu gwrthwynebiad gan rai o aelodau eraill y Cabinet, sy’n pryderu y gallai targed rhy uchelgeisiol ddal economi’r wlad yn ôl.

“Rydyn ni’n croesawu fod y Llywodraeth wedi dod i benderfyniad o’r diwedd ynglŷn â’r bedwaredd gyllideb carbon [sef y cyfnod rhwng 2023 a 2027],” meddai Meg Hiller, ysgrifennydd egni’r wrthblaid.

“Mae’n dweud ein bod ni ar y ffordd i gwrdd â thargedau’r tair cyllideb carbon cyntaf. Dw in ddim yn meddwl fod hynny diolch i’r llywodraeth bresennol.

“Mae cynnydd wedi bod yn araf iawn ar faterion gwyrdd.”

Galwodd ar Chris Huhne i ailedrych ar yr amserlen ar gyfer profi technoleg allai ddal a storio carbon sy’n cael ei ryddhau gan lo a nwy.

Y nod yw dal a chladdu’r carbon deuocsid sy’n cael ei greu wrth losgi glo dan y ddaear mewn tyllau wedi eu gwagio o olew neu nwy.

Byddai hynny yn caniatáu i Brydain losgi glo a nwy heb ryddhau nwyon tŷ gwydr i’r amgylchedd.