Gordon Brown
Mae Gordon Brown wedi wfftio honiadau’r Prif Weinidog David Cameron nad oes ganddo siawns o fod yn bennaeth ar y Gronfa Gyllid Rhyngwladol – yr IMF.

Yn ôl y Financial Times, mae’r cyn-Brif Weinidog Gordon Brown yn credu fod ganddo ddigon o gefnogaeth ledled y byd i sicrhau ei fod yn cael ei enwebu.

Mae’n debyg bod cyn-brif weinidog Prydain wedi dweud wrth gydweithwyr nad  David Cameron fydd â’r gair terfynol wrth benderfynu pwy ddylai olynu Dominique Strauss-Kahn.

Mae pennaeth presennol yr IMF mewn carchar yn Efrog Newydd dan amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar forwyn mewn gwesty.

Roedd Gordon Brown eisoes wedi teithio i Washington a Pharis er mwyn ceisio ennill cefnogaeth i’w ymgais i gymryd yr awenau yn yr IMF.

Mae’n uchel ei barch yn y byd ariannol am ei ran wrth fynd i’r afael ag argyfwng ariannol 2008-09.

“Wedi dychwelyd o Washington a Pharis, mae e’n teimlo’n hyderus iawn,” meddai un o gydweithwyr Gordon Brown wrth y Financial Times.

“Dyw e ddim yn fodlon derbyn na fydd yn cael y swydd. Mae e wedi sicrhau cefnogaeth pobol fydd yn sefyll tu cefn iddo, ac yn fodlon rhoi ei enw ymlaen.”