Dr Liam Fox
Mae llythyr gan un o aelodau blaenllaw’r llywodraeth su’n beirniadu’r Prif Weinidog wedi mynd i ddwylo’r wasg.

Mae’r llythyr gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Dr Liam Fox, yn beirniadu’r Prif Weinidog, David Cameron, am geisio gorfodi llywodreathau’r dyfodol i roi hyd a hyn o arian i wledydd tramor.

Mae’r llythyr sydd wedi ei weld gan bapur newydd y Times yn herio cynllun y prif weinidog i sicrhau fod 0.7% o’r incwm cenedlaethol yn mynd tuag at roi cymorth i wledydd eraill.

Byddai’r ddeddf yn dod i rym o 2013 ymlaen, ac yn clymu llywodraethau’r dyfodol at yr ymroddiad.

Mae llawer o Aelodau Seneddol wedi mynegi pryder am yr addewid i roi rhagor o arian i wledydd tramor, ar adeg pan fod Prydain yn wynebu toriadau ariannol.

Dywedodd Liam Fox y gallai’r llywodraeth wynebu her gyfreithiol wrth gyflwyno’r ddeddf, yn hytrach nag addewid i wario 0.7% o’r incwm blynyddol ar gymorth i wledydd tramor.

Cadw’n dawel

Ers iddi ddod i’r amlwg fod y llythyr personol wedi dod i ddwylo’t Times, mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi ymatal rhag crybwyll ei farn ar y mater.

“Mae’r Gweinidog Amddiffyn yn llwyr gefnogi’r egwyddor y dylid gosod targed o 0.7% ar gyfer cymorth rhyngwladol,” meddai.

Y cwestiwn medden nhw yw a oes angen deddfwriaeth er mwyn gwneud hynny.

Mae’r llythyr a fydd yn ymddangos yn y Times yfory yn ei gwneud hi’n glir ei fod wedi codi’r pryderon gyda’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, a’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, cyn ysgrifennu at y prif weinidog.

“Rydw i wedi ystyried y mater yn ofalus, ac wedi ei drafod gydag Andrew a William Hague, ond ni allaf gefnogi’r cynnig yn ei ffurf bresennol,” ysgrifennodd.

“Yn 2009, dim ond 0.52% o’r incwm cenedlaethol gafodd ei wario ar ddatblygu tramor.”

Gallai rhoi’r addewid mewn deddf, meddai, “gyfyngu ar allu’r llywodraeth i newid ei meddwl ynglŷn â sut a phryd y mae’n cyrraedd y targed,” meddai.

Mae Stryd Downing wedi gwrthod gwneud sylwadau ar y llythyr.