Heddlu Llundain
Mae Heddlu’r Met Llundain wedi derbyn rhybudd fod yna fom yng nghanol Llundain.

Doedd yna ddim manylion ynglŷn ag amser neu leoliad unrhyw ymosodiad, medden nhw.

Cafodd rhai o strydoedd yng nghanol y brifddinas eu cau bore ma ond does dim cadarnhad fod cysylltiad rhwng hynny a’r bygythiad.

Y gred yw mai Gweriniaethwyr terfysgol o Iwerddon oedd yn gyfrifol am y bygythiad. Bydd y Frenhines yn ymweld â Gweriniaeth Iwerddon am y tro cyntaf yfory.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod Prydain yn wynebu “bygythiad difrifol gan derfysgwyr”.

“Mae lefel y bygythiad i Brydain gan derfysgaeth sy’n ymwneud â Gogledd Iwerddon yn uchel, sy’n golygu fod ymosodiad yn debygol,” meddai.