Alex Salmond, arweinydd yr SNP
Mae’r dyn sydd wedi argymell newid y drefn o ariannu Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod llwyddiant yr SNP yn yr Alban yn peryglu unrhyw gynnydd.

Mae’r gobaith o ddiwygio Fformiwla Barnett yn llai nag yr oedd cyn yr etholiadau ddechrau’r mis, meddai Gerry Holtham, Cadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu Cymru.

“Fe fyddai hynny fel chwifio cadach coch o flaen tarw Albanaidd,” meddai’r arbenigwr ariannol a oedd wedi dangos bod Cymru’n colli cannoedd o filiynau’r flwyddyn oherwydd annhegwch y Fformiwla.

Yn fwy na hynny, meddai mewn erthygl ar wefan y sefydliad Materion Cymreig, mae galwadau diweddara’ Llywodraeth yr Alban, am fwy o reolaeth ar incwm a threthi, yn tynnu’n groes i fuddiannau Cymru.

‘Ddim yn siwtio Cymru’

“Fyddai hynny ddim yn siwtio Cymru,” meddai Gerry Holtham. “Mae lles yr Alban a Chymru’n parhau i fynd i gyfeiriadau gwahanol.

“Mae agwedd un llywodraeth Brydeinig ar ôl y llall at ddiwygio Barnett yn dangos bod y gallu i greu stŵr gwleidyddol yn bwysicach na syniadau o degwch a chysondeb.

“Mae newid o dipyn i beth yn ymddangos yn llawer mwy tebygol na newid radical yn y dull o roi arian i Gymru. Mae llwyddiant yr SNP wedi gostwng yn hytrach na chynyddu’r gobeithion am ddiwygio cyflym.”

Problem yr Alban – y dadleuon

Pe bai Fformiwla Barnett yn cael ei newid i gydnabod anghenion y gwahanol wledydd, fe fyddai Cymru’n ennill mwy na £300 miliwn y flwyddyn ond fe fyddai’r Alban yn colli biliynau. Ar ôl enillion mawr yr SNP yn etholiadau Holyrood, mae’r Llywodraeth yn Llundain yn llai tebyg o fentro hynny.

Mae’r Alban bellach yn galw am i’r holl drethi sy’n cael eu casglu yn yr Alban aros yno, gan gynnwys y trethi ar olew Môr y Gogledd. Fe fyddai hynny’n creu system ariannol ffederal a, pe bai’r un peth yn digwydd yng Nghymru, fe fyddai’r wlad ar ei cholled.

Yn ôl Gerry Holtham, mae derbyniadau trethi yng Nghymru tua £19 biliwn ond mae’r holl wario gan lywodraethau yn £25 biliwn. Felly, mae Cymru’n rhedeg ar golled o £6 biliwn, tua 14% o holl gynnyrch economaidd – GDP – y wlad.

Os bydd Alex Salmond yn llwyddo i greu system ffederal, mae Cymru’n debyg o gael llai o arian o’r canol ac am orfod dibynnu ar ei hadnoddau “cymharol wan” ei hunan.

Beth sy’n bosib?

Mae Gerry Holtham yn awgrymu rhai ffyrdd y gallai Cymru symud ymlaen ac ennill ychydig:

  • Mae gobaith o gael ‘llawr’ i leihau’r wasgfa ar yr hyn sy’n cael ei wario ar bob pen o’r boblogaeth o dan Fformiwla Barnett. Fyddai Cymru ddim yn gallu derbyn llai wedyn nag y byddai’n ei gael o dan y fformiwlâu sy’n rhannu arian yn ôl angen rhwng gwahanol ranbarthau Lloegr. Fe fyddai’r enillion yn fach i ddechrau, meddai Gerry Holtham, ond yn sawl biliwn tros ddegawd neu ddau.
  • Dyw’r Trysorlys yn Llundain ddim eisiau rhoi hawliau benthyg i Lywodraeth Cymru. Ond mae gan awdurdodau lleol Cymru hawl i fenthyg a thydyn nhw ddim yn defnyddio’r cyfan. Felly, o ran egwyddor ar hyn o bryd, fe allen nhw fenthyg ar ran y Llywodraeth yng Nghaerdydd.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru’n gallu trafod ei chwota benthyg ei hun, dylai o leia’ fynnu nad yw’r Trysorlys yn rhwystro awdurdodau lleol rhag benthyg ar gyfer prosiectau ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru,” meddai Gerry Holtham.

  • Os bydd Llywodraeth Prydain yn ildio i’r Alban – a Gogledd Iwerddon – trwy roi rheolaeth iddyn nhw ar y dreth gwmnïau, fe fydd rhaid cael fframwaith ar gyfer Cymru gyfan. O dan fformiwla a gafodd ei chynnig gan Gomisiwn Holtham, fe fyddai Cymru a Gogledd Iwerddon yn gallu gostwng y dreth ond fe fyddai’r Alban yn gwrthwynebu.

“Os bydd dêl neu beidio, a beth bynnag fydd ei hunion ffurf, rhaid i Lywodraeth Cymru ddadlau’n ffyrnig tros system sy’n trin pob ardal ddatganoledig yn deg a chyson,” meddai Gerry Holtham.

Mae’r erthygl lawn ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.