Chris Huhne
Mae David Cameron wedi dweud fod ganddo hyder llwyr yn ei Ysgrifennydd Egni, Chris Huhne.

Dywedodd y Prif Weinidog fod Chris Huhne yn gwadu’r honiad ei fod wedi gofyn i rywun arall gymryd pwyntiau gyrru ar ei ran.

Dywedodd Heddlu Essex eu bod nhw’n ymchwilio i gwyn swyddogol gan yr Aelod Seneddol Llafur, Simon Danczuk, cyn penderfynu a fyddwn nhw’n bwrw ymlaen ag ymchwiliad.

Yn ôl adroddiadau roedd cyn-wraig Chris Hunhe, Vicky Price, wedi cymryd y pwyntiau ar ei ran yn 2003.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod “Chris Hunhe yn gwadu’r holl honiadau yn ei erbyn”. Roedd gan y Prif Weinidog bob ffydd yn yr Ysgrifennydd Egni, meddai.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai Chris Huhne yn cadw ei le yn y Cabinet hyd yn oed pe bai’r heddlu yn penderfynu ymchwilio i’r mater.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tim Wills, sy’n delio â’r mater ar ran Heddlu Essex, na fydden nhw’n cynnal ymchwiliad “nes ein bod ni’n sicr fod trosedd wedi digwydd”.

“Fe fyddaf i a’r tîm yn gwneud y gwaith hwnnw’r wythnos yma,” meddai.