Trefnwyr digwyddiad Dreamscape 5 oedd yn bennaf ar fai ar ôl i ddau berson farw pan adawodd darn o gelf llawn aer y llawr, penderfynodd yr Uchel Lys heddiw.

Cafodd  Claire Furmedge, 38, ac Elizabeth Collings, 68, eu lladd wrth ddisgyn o’r strwythur chwyddadwy yn Riverside Park, Chester-le-Street yn Swydd Durham ym mis Mehefin 2006.

Mae’r teuluoedd wedi cael iawndal a’r unig beth ar ôl i’w benderfynu yw ai yswirwyr Cyngor Dosbarth Chester-le-Street ynteu gorff celfyddydol Brouhaha International Limited oedd ar fai.

Fe fu farw’r artist oedd yn gyfrifol am y gwaith, Maurice Agis, yn 2009 heb adael unrhyw asedau ar ei ôl.

Dadl yr Arglwydd Faulks QC oedd y dylai Brouhaha International Limited dderbyn o leiaf 67% o’r cyfrifoldeb am beth ddigwyddodd.

Ond dywedodd y Barnwr yr Ustus Foskett fod y cyngor yn haeddu tua 45% o’r cyfrifoldeb a Brouhaha International Limited yn haeddu tua 55%.

“Wrth gwrs petai Maurice Agis wedi bod yn rhan o’r achos, fe fyddai bron yn sicr wedi gorfod derbyn y rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb o’r tri pharti,” meddai.