Mae milwr arall o Brydain wedi marw yn Afghanistan.

Cyhoeddodd y Weiniyddiaeth Amddiffyn fod aelod o’r 42 Commando Royal Marines wedi cael ei ladd gan ddyfais ffrwydrol heddiw.

Roedd wrthi’n cymryd rhan mewn cyrch i archwilio adeilad yn ardal Loy Mandeh Wadi  yn nhalaith Helmand.

Mae ei deulu wedi cael gwybod a does dim manylion pellach wedi cael eu rhyddhau ar hyn o bryd.