Yr Ysgrifennydd Ynni Chris Huhne
Fe fydd yr heddlu’n penderfynu’r wythnos yma a fyddan nhw’n cynnal ymchwiliad ai peidio i honiadau bod gweinidog cabinet wedi gofyn i rywun arall gymryd pwyntiau cosb gyrru ar ei ran am drosedd or-yrru.

Mae’r Aelod Seneddol Llafur Simon Danczuk wedi cyflwyno cŵyn i heddlu Essex ynghylch yr honiadau am yr Ysgrifennydd Ynni, y Democrat Rhyddfrydol Chris Huhne.

Fe wnaeth Chris Huhne wadu’r honiadau a ymddangosodd mewn papurau newydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r digwyddiad honedig yn mynd yn ôl i gyfnod pan oedd Chris Huhne yn Aelod Seneddol Ewropeaidd, cyn iddo gael ei ethol i San Steffan.

“Fe allwn ni gadarnhau ein bod ni wedi derbyn e-bost ynghylch trosedd or-yrru yn 2003,” meddai heddlu Essex mewn datganiad.

“Fe fydd yr wybodaeth hon yn cael ei phasio ymlaen i swyddogion a fydd yn penderfynu a fydd ymchwiliad yn cael ei lansio. Rydym yn cymryd honiadau fel y rhain yn hynod ddifrifol a byddwn yn gweithredu lle bo angen.”

Mae disgwyl i’r heddlu edrych ar yr achos dros ymchwiliad yfory. Doedd gan swyddfa Chris Huhne ddim sylw i’w wneud ar y mater.