Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Mae anesmwythyd o fewn yr SNP yn yr Alban ynghylch y ffordd y mae llywodraeth Alex Salmond yn ystyried addasu ei nod cyfansoddiadol i rywbeth sy’n syrthio’n fyr o annibyniaeth.

Fel yr adroddwyd ar Golwg360 ddoe, mae arweinyddiaeth y blaid yn chwilio am nod cyfansoddiadol a allai ennill cefnogwyr mwyafrif pobl yr Alban mewn refferendwm.

Ar ôl i’r SNP ennill mwyafrif llwyr yn yr etholiad ddechrau’r mis, mae refferendwm o’r fath yn anochel yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Er bod yr arolwg barn diweddaraf gan ComRes yn dangos cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth, lleiafrif o hyd – 38% – sy’n cefnogi’r nod.

Yn wyneb hyn, mae’r SNP yn ystyried amcanion mwy cymedrol lle byddai’r Alban yn rhannu cyfrifoldeb am faterion fel amddiffyn, nawdd cymdeithasol a pholisi tramor gyda Lloegr.

Mae Alex Salmond wedi awgrymu hefyd y gallai’r refferendwm gynnwys mwy nag un dewis, gyda hunan-lywodraeth trethiannol yn un o’r trethiannau.

Gwrthwynebiad

Er bod y cymedroli yma mewn amcanion  yn cael ei gefnogi gan un o ffigurau mwyaf digyfaddawd y blaid, y dirprwy arweinydd Jim Sillars, mae arwyddion o wrthwynebiad yn dechrau ymddangos.

“Mae rhai pobl yn y blaid fel petaen nhw’n awgrymu fod yna derfyn na allwn ni ei groesi tuag at fod yn genedl wladwriaeth lawn,” meddai Pat Kane, cerddor ac ymgyrchydd dros annibyniaeth. “Dw i ddim yn derbyn hyn. Mae’n fethiant uchelgais ar union yr adeg y mae angen inni symud i lefel newydd.”

Mae adain ffwndamentalaidd yr SNP yn credu mewn annibyniaeth lwyr, ac mae aelodau blaenllaw’n feirniadol o’r newid polisi gan yr arweinyddiaeth.

“Fe fyddwn ni’n gwneud hyn [setlo am gyfaddawd] ac fe fydd y blaid yn cytuno, ond mae’r cyfan yn ymddangos yn niwlog iawn,” meddai un cynghorydd.

“Mae’n debyg y bydd Aelodau Senedd yr Alban yn cytuno i hyn, ond yn eu calonnau fe fyddan nhw’n meddwl nad dyma pam y daethon nhw i wleidyddiaeth,” meddai un arall o wleidyddion y blaid.

Amheuon arbenigwr

Mae syniad diweddara’r SNP wedi cael ei feirniadu hefyd gan arbenigwr cyfansoddiadol, yr Athro Robert Hazell, cyfarwyddwr uned cyfansoddiadol Prifysgol Llundain:

“Fy mhrif sylw yw’r dryswch posibl,” meddai. “Amddiffyn, polisi macro-economaidd a materion tramor yw nodweddion allweddol y cyflwr o fod yn wladwriaeth. A oes ar yr SNP eisiau i’r Alban fod yn annibynnol ai peidio?”