Syr David Richards
Mae pennaeth lluoedd arfog gwledydd Prydain yn dweud bod angen ehangu’r ymosodiadau yn erbyn Llywodraeth Libya.
Fel arall,meddai syr David Richards, mae peryg y bydd y Cyrnol Gaddafi yn dal ei afael ar rym yno.
Fe ddywedodd wrth bapur newydd y Sunday Telegraph bod angen ymosod ar dargedau “isadeiledd” – hynny mae’n debyg yn cynnwys systemau trafnidiaeth ac ynni a phethau o’r fath.
“Mae’r ymgyrch filwrol hyd yma wedi bod yn llwyddiant sylweddol i NATO a’i chynghreiriaid Arabaidd,” meddai. “Ond mae angen gwneud mwy.”
Pobol gyffredin
Roedd David Richards hefyd yn mynnu mai ychydig iawn o bobol gyffredin oedd wedi eu lladd yn yr ymosodiadau – er bod Libya newydd hawlio bod 11 o glerigwyr wedi marw mewn cyrch gan NATO ar ddinas Brega.
Yn ôl NATO eu hunain, roedden nhw wedi ymosod ar darged milwrol dilys.