Y Frenhines - bydd yn cyrraedd Iwerddon ddydd Mawrth
Mae’r trefniadau diogelwch mwyaf erioed yn Iwerddon yn eu lle ar gyfer ymweliad hanesyddol y Frenhines â’r wlad yr wythnos nesaf.
Mae dros 6,000 o blismyn a milwyr wedi cael eu hanfon i oruchwylio strydoedd Dulyn ac mae gweriniaethwyr gwrthryfelgar amlwg yn cael eu cadw dan wyliadwriaeth. Fe fydd saith o awyrennau milwrol, gynnau gwrth-awyrennau a systemau radar hefyd yn cael eu defnyddio i warchod rhag ymosodiad posibl o’r awyr.
Fe fydd prif stryd Dulyn, Stryd O’Connell, wedi cau trwy ddydd Mawrth, y diwrnod y bydd y Frenhines a Dug Caeredig yn cychwyn ar bedwar diwrnod o deithio’r wlad.
Dyma’r trefniadau diogelwch mwyaf a welwyd erioed yn hanes y wladwriaeth,” meddai llefarydd ar ran y Garda, yr Uwcharolygdd John Gilligan.
Mae disgwyl y bydd y cyfan wedi costio 30 miliwn ewro (£26 miliwn).
Protestiadau
Mae’r trefniadau’n canolbwyntio ar fygythiadau terfysgol posibl a hefyd ar brotestiadau i dynnu sylw gan garfannau sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yng ngogledd Iwerddon.
Mae disgwyl i tua 200 o ymgyrchwyr drefnu gwrthdystiadau mewn mannau allweddol yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod, gan gynnwys un yng Ngardd Goffa Dulyn, sy’n anrhydeddu’r rhai a frwydrodd dros annibyniaeth, a Croke Park.
Er y bydd gwrthdystiadau heddychlon yn cael eu caniatáu, mae’r heddlu’n benderfynol na fydd unrhyw brotestwyr yn cael mynd yn agos at y Frenhines.