Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Mae arwyddion y bydd llywodraeth Alex Salmond yn yr Alban yn anelu at setliad cyfansoddiadol a fydd yn syrthio’n fyr o annibyniaeth lwyr.

Yn dilyn llwyddiant annisgwyl yr SNP i ennill mwyafrif llwyr yn y senedd wedi etholiad yr wythnos ddiwethaf, fe fydd refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad yn cael ei gynnal yn yr ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Ond mae’n amlwg fod rhai o wleidyddion mwyaf blaenllaw’r blaid yn sylweddoli y byddai’n anodd iawn ennill pleidlais a fyddai’n arwain at greu gwladwriaeth ar wahân a thorri i ffwrdd yn llwyr oddi wrth weddill Prydain.

Rhannu cyfrifoldeb

Yn ôl papur newydd y Scotsman, bwriad Alex Salmond yw setliad cyfansoddiadol a fyddai’n golygu y byddai’r Alban yn rhannu cyfrifoldeb dros amddiffyn, nawdd cymdeithasol a pholisi tramor gyda Lloegr.

Mae’r newid cyfeiriad yn cael ei gymeradwyo gan un o hoelion wyth mwyaf digyfaddawd y blaid, Jim Sillars, sy’n cydnabod y byddai’r syniad o annibyniaeth lwyr yn peri pryder i etholwyr.

Er gwaethaf buddugoliaeth ysgubol yr SNP, mae arolygon barn yn dangos mai llai na thraean o’r boblogaeth sy’n cefnogi annibyniaeth. Ac mae’r blaid wedi cydnabod y byddai pleidlais ‘Na’ mewn refferendwm yn cau’r drws ar y cwestiwn cyfansoddiadol am amser maith.

A’r SNP wedi ymrwymo i refferendwm, mae pwysau ar iddyn nhw ddatblygu strategaeth ar frys a fyddai’n eu gallluogi nhw i ennill pleidlais o’r fath.

 “Mae Alex Salmond bellach ym myd gwleidyddiaeth a chelfyddyd y posibl, nid gwleidyddiaeth perffeithrwydd,” meddai Jim Sillars.

“Does dim pwynt mewn bod mor bur â’r eira, a chael eich gorchfygu mewn refferendwm a fydd yn setlo pethau am fwy na chenhedlaeth.”