Mae’r llywodraeth yn bwriadu cryfhau cyfamod milwrol sy’n datgan hawliau milwyr a chyn-filwyr i ofal iechyd, tai a gwasanaethau eraill.
Fe fydd ymrwymiad o ddyletswydd y wladwriaeth i roi gofal i aelodau o’r lluoedd arfog yn cael ei gadarnhau trwy roi iddo statws cyfreithiol.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi wynebu cyhuddiadau – gan ymgyrchwyr ar ran cyn-filwyr a chan aelodau seneddol meinciau cefn – nad oedd y mesur cyfamod milwrol sy’n mynd trwy’r senedd ar hyn o bryd yn ddigon cryf.
Ond dywed y gweinidog amddiffyn Andrew Robathan y bydd y llywodraeth yn rhoi sail statudol i’r cyfamod.
Cafodd y cyfamod ei gyflwyno oherwydd pryderon nad yw aelodau o’r lluoedd arfog yn cael y gofal dyladwy o safbwynt y gwasanaeth iechyd, tai na thâl.
Yn ogystal â sicrhau na ddylai neb fod o dan anfantais yn sgil gwasanaeth milwrol, mae’r cyfamod yn datgan y gellir weithiau gyfiawnhau triniaeth arbennig.