Nick Clegg
Mae Nick Clegg wedi nodi blwyddyn ers ymuno â’r Llywodraeth yn San Steffan gan ddweud mai “anghenraid” oedd creu’r glymblaid a dim mwy.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod wedi gwneud y “penderfyniad cywir” wrth ymuno â’r glymblaid er mwyn gallu mynd i’r afael â’r argyfwng economaidd.

Ond ar ôl cael “trwyn gwaed” gan bleidleiswyr yn yr etholiadau ddydd Iau, dywedodd ei fod yn amser i’w blaid ddechrau brolio’r hyn yr oedden nhw wedi ei gyflawni mewn llywodraeth.

“Mae’n bryd i ni fod yn fwy pendant ynglŷn â’r gwahaniaethau o fewn y glymblaid ar rai pynciau, heb fygwth sefydlogrwydd y llywodraeth,” meddai.

“Yn y dyfodol fe fydd y pleidiau yn gallu bod yn fwy eglur ynglŷn â’u hunaniaeth eu hunain, ond hefyd yn agored ynglŷn â’r angen i gefnogi’r Llywodraeth a’i bolisïau.

“Fe fyddwn ni yn sefyll gyda’n gilydd, ond ddim mor agos fel ein bod ni’n sefyll yng nghysgod ein gilydd.”

Er gwaetha’r chwalfa etholiadol yr wythnos diwethaf, roedd gan y blaid obaith o wneud yn dda iawn yn Etholiad Cyffredinol 2015, meddai.

Pôl piniwn

Yn ôl arolwg gan Com Res ar ran ITV roedd bron i hanner (49%) o bleidleiswyr yn teimlo fod y glymblaid wedi bod yn beth drwg, a 53% wedi eu siomi ganddo.

Dim ond 28% oedd yn credu y byddai’n parhau am bum mlynedd, nes yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2015.

Doedd 63% ddim yn ymddiried yn Nick Clegg, a 59% yn credu ei fod wedi cefnu ar egwyddorion y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dim ond 24% oedd yn credu ei fod yn arweinydd da, ac roedd 33% yn credu y dylai roi’r gorau iddi.

Roedd 38% yn credu fod modd ymddiried yn y Prif Weinidog David Cameron, 48% ddim, a 15% ddim yn siŵr.