Annabel Goldie
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban wedi penderfynu camu o’r neilltu ar ôl canlyniad “ysgytwol” etholiadau Senedd yr Alban.
Dywedodd Annabel Goldie, sydd wedi arwain y blaid ers 2005, y byddai’n dal ati nes bod arweinydd newydd yn cael ei benodi yn hwyrach eleni.
Hi yw’r trydydd arweinydd i roi’r ffidil yn y to ers yr etholiadau ddydd Iau. O’r prif bleidiau, dim ond arweinydd yr SNP, Alex Salmond, sy’n bwriadu parhau yn ei swydd.
Collodd y Ceidwadwyr ddwy sedd yn yr etholiad, un i’r SNP a’r llall i’r Blaid Lafur, gan fynd o 17 i 15 sedd.
“Roedd canlyniad yr etholiad yn ysgytwol. Doedd neb, hyd yn oed Alex Salmond, yn credu y byddai’r SNP yn ennill mwyafrif yn Holyrood,” meddai.
“Rydw i’n credu fod yr amser wedi dod i rywun arall gymryd yr awenau ac ni fyddaf yn ymgeisydd.
“Mae yna bedair blynedd nes yr Etholiad Cyffredinol nesaf, a phum mlynedd nes yr etholiad nesaf yn Holyrood.
“Rydw i am i fy olynydd gael digon o amser i lunio’r blaid a’i bolisïau ac arwain yr wrthblaid yn Holyrood.
“Fe fydda i yn aros yn arweinydd nes bod fy olynydd yn cymryd yr awenau, ac wrth gwrs yn parhau yn Aelod o Senedd yr Alban nes diwedd y senedd yma.
“Mae wedi bod yn fraint arwain fy mhlaid.”
Rhybuddiodd Annabel Goldie yr SNP nad oedd yna “unrhyw esgusodion” erbyn hyn.
“All Alex Salmond ddim dweud ‘does gen i ddim mwyafrif’ neu ‘doeddwn i ddim yn gwybod y sefyllfa ariannol’.
“Does yna ddim lle i guddio y tro yma pan fydd yn torri ei addewidion etholiadol.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Alex Salmond, fod ganddo barch mawr at Annabel Goldie a bod ganddi “synnwyr digrifwch iach”.