Alex Salmond - mynd am annibyniaeth
Mae annibyniaeth yn bownd o ddod i’r Alban, meddai Prif Weinidog y wlad, Alex Salmond.

Ar ôl buddugoliaeth ysgubol, mae arweinydd plaid yr SNP wedi cadarnhau wrth bapurau yno y bydd yn cynnal refferendwm ar y mater cyn diwedd cyfnod y Senedd newydd.

Er mai Senedd San Steffan sydd â’r hawl i benderfynu ar gyfansoddiad gwledydd Prydain, fe fyddai refferendwm yn yr Alban yn rhoi neges wleidyddol gry’.

Yn ôl papur y Scotsman, mae’r gwrthbleidiau yng Nghaeredin mewn anhrefn tros y pwnc, gan dynnu’n groes i’w gilydd.

‘Rhwydd hynt’

Fe ddylai Alex Salmond gael rhwydd hynt i alw refferendwm pan fydd eisiau gwneud hynny, meddai Ysgrifennydd yr Alban, y Democrat Rhyddfrydol, Michael Moore.

Fe ddylai’r Llywodraeth yn Llundain alw refferendwm ar unwaith, meddai ei ddirprwy, y Ceidwadwr, David Mundell, ac arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Annabel Goldie.

Ond, yn ôl adroddiadau eraill, mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi dweud nad oes angen unrhyw refferendwm o gwbl.

‘Mater i bobol yr Alban’

“Fy marn i yw bod y penderfyniad ar annibyniaeth fwy neu lai’n anorfod,” meddai Alex Salmond. “Ond mae’r amseriad, wrth gwrs, yn naturiol yn fater i bobol yr Alban.

“Mater i bobol yr Alban benderfynu fydd hwn; pobol yr Alban fydd yn cael rhoi’r ddedfryd ar eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain.”

Roedd yn wfftio’r polau piniwn sy’n dweud bod mwyafrif pobol yr Alban yn erbyn annibyniaeth: “Fis yn ôl, roedden nhw’n dweud bod y Blaid Lafur 15 pwynt o flaen yr SNP,” meddai.