Tavish Scott
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban wedi camu o’r neilltu ar ôl canlyniad “trychinebus” i’w blaid yn Etholiadau Senedd yr Alban.

Dywedodd Tavish Scott fod ei blaid wedi ei “chael hi’n anodd” ers dechrau’r glymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn San Steffan.

Collodd y blaid yn yr Alban 25 blaendal ar ôl i’w hymgeiswyr fethu a sicrhau 5% o’r bleidlais.

Dim ond pum aelod o’r blaid fydd yn Senedd yr Alban y tymor nesaf. Mae pob un o’u hetholaethau nhw nawr ar ynysoedd ymhell o’r tir mawr.

Roedd ganddyn nhw 16 aelod yn y senedd flaenorol.

“Ers mis Mai rydyn ni wedi ei chael hi’n anodd o ganlyniad i ffurfio Llywodraeth San Steffan,” meddai Tavish Scott wrth Sky News.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu gweld yn cefnogi’r Ceidwadwyr ac mae hynny yn gyfuniad trychinebus a gwenwynig yng ngwleidyddiaeth yr Alban.”

Mewn datganiad dywedodd Tavish Scott, gafodd ei ethol yn arweinydd y blaid ym mis Awst 2008, y byddai’n rhoi’r gorau iddi yn syth.