Senedd yr Alban
Mae Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, wedi dweud na fydd Llywodraeth San Steffan yn ceisio atal refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad.

Dywedodd yr Aelod Seneddol fod yn rhaid i’w blaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, sylweddoli fod y glymblaid yn San Steffan wedi arwain yn rhannol at fuddugoliaeth yr SNP yn yr Alban.

Syrthiodd pleidlais y Dems Rhydd yn sylweddol yn yr etholiad ddydd Iau a’r SNP oedd wedi elwa’n bennaf ar hynny.

Mae arweinydd yr SNP, Alex Salmond, wedi dweud ei fod yn gobeithio cynnal refferendwm tua 2014.

“Ni fydd Llywodraeth San Steffan yn ceisio atal unrhyw refferendwm,” meddai Michael Moore.

“Os oes refferendwm yn cael ei gynnal fe fydda i yn amlwg yn ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth.”

Dim ‘rheol 40%’

Dywedodd dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr, Murdo Fraser, y dylai Llywodraeth San Steffan ystyried cynnal ei refferendwm ei hun ar y pwnc yn y dyfodol agos.

Y nod fyddai achub y blaen ar yr SNP cyn iddyn nhw gael cyfle i argyhoeddi pobol yr Alban fod annibyniaeth yn syniad da, meddai.

Ond wfftiodd Michael Moore hynny gan ddweud y byddwn nhw’n caniatáu i Lywodraeth yr Alban benderfynu ar amseru’r refferendwm.

Roedd hefyd yn gwrthwynebu mewnosod cymalau fel y ‘rheol 40%’ ddefnyddiwyd i atal datganoli senedd i’r Alban yn y refferendwm yn 1979.

Bryd hynny roedd rhaid i 40% o boblogaeth y wlad bleidleisio ‘Ie’ er mwyn ennill y dydd.

“Nid ein swyddogaeth ni yw gwneud hynny. Bydd rhaid i bobol yr Alban gytuno ar hynny,” meddai.

“Mae’n fater i Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban.”