Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw ar weinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol i adael y glymblaid.
Dywedodd y dylen nhw ymuno ag ef er mwyn brwydro yn erbyn polisïau’r Ceidwadwyr ar feinciau’r wrthblaid.
Daw cynnig Ed Miliband wrth i Ddemocratiaid Rhyddfrydol blaenllaw alw am newid ym mherthynas y blaid gyda’r Ceidwadwyr.
Dioddefodd y blaid chwalfa yn yr etholiadau’r wythnos diwethaf, gan golli seddi yng Nghymru, yr Alban ac etholiadol lleol Lloegr.
Ddoe dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, fod ei gyd-weithwyr yn y Blaid Geidwadol yn “ddidostur, craff a llwythol”.
Ond mynnodd y byddai’r glymblaid yn parhau am bum mlynedd nes yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Wrth siarad â phapur newydd The Observer, dywedodd Ed Miliband ei fod yn “hwyr, ond ddim yn rhy hwyr” i weinidogion adael y glymblaid.
“Ydyn nhw eisiau polisïau’r Ceidwadwyr ynteu rhai blaengar?” gofynnodd.
“Os ydyn nhw o blaid y wleidyddiaeth newydd fe ddylen nhw gadw eu haddewidion ac adlewyrchu ewyllys y bobol a bleidleisiodd drostyn nhw,” meddai.
“Os nad ydyn nhw o blaid polisïau’r Ceidwadwyr fe ddylen nhw fod yn driw i’w credoau a gadael y Cabinet.
“Mae yna gyfle iddyn nhw ddod i weithio gyda ni. Mae fy nrws i ar agor o hyd.”
Yn ôl papur newydd The Independent on Sunday mae gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynnu fod y Prif Weinidog, David Cameron, yn ffrwyno’r Canghellor George Osborne sydd wedi ei gyhuddo o danseilio’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.