Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint wedi mynegi pryder ynghylch y ffordd y cafodd Osama bin Laden ei ladd gan luoedd America ddechrau’r wythnos.

“Dw i’n meddwl bod lladd dyn heb fod yn arfog yn mynd i adael teimlad anghysurus iawn oherwydd dyw hi ddim yn ymddangos bod cyfiawnder yn cael ei weld yn cael ei wneud,” meddai’r Dr Rowan Williams mewn cynhadledd i’r wasg y bore yma.

“O dan yr amgylchiadau hynny dw i’n meddwl ei bod hi’n wir fod nad yw’r gwahanol fersiynau o ddigwyddiadau sydd wedi ymddangos dros y dyddiau diwethaf wedi gwneud llawer iawn i helpu.

“Dw i ddim yn gwybod y manylion llawn mwy nag y mae neb arall. Ond o dan y fath amgylchiadau lle cawn ein hwynebu â rhywun sy’n amlwg yn droseddwr rhyfel o safbwynt yr erchyllterau y mae wedi eu hachosi, dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod cyfiawnder yn cael ei weld yn cael ei wneud.”

Penodi esgobion teithiol

Fe wnaeth Rowan Williams ei sylwadau mewn cynhadledd i’r wasg ym Mhlas Lambeth i gyhoeddi penodiad dau ‘esgob teithiol’ a fod â gofalaeth arbennig dros Anglicaniaid sy’n gwrthwynebu ordeinio merched.

Fe fydd y Parch Jonathan Baker a’r Parch Norman Banks yn cael eu cysegru’n ymwelwyr esbogol taleithiol yng Nghadeirlan Southark ar 16 Mehefin.

Mae penodi’r ddau’n dilyn penderfyniad Anglicaniaid blaenllaw i adael ac ymuno â’r Eglwys Gatholig oherwydd eu gwrthwynebiad i ordeinio merched.

Ond dywed y grŵp ymgyrchu WATCH (Women and the Church) ei fod yn “siomedig iawn” â’r penodiadau ac mae’n feirniadol o’r “haelioni” y mae Rowan Williams wedi ei ddangos i’r rhai sy’n gwrthwynebu i ferched gael mynd yn esgobion.

“Mae ar y mwyafrif llethol o bobl y tu mewn a’r tu allan i Eglwys Loegr eisiau gweld yr Eglwys yn cael ei harwain gan ferched yn ogystal â dynion,” meddai llefarydd ar eu rhan.