Nick Clegg
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw ar bleidleiswyr i beidio a thrin y refferendwm ar y system bleidlais amgen yfory fel refferendwm ar Nick Clegg.

Fe fydd pleidleiswyr yn penderfynu yfory a ydyn nhw eisiau newid o’r system cyntaf heibio’r postyn i’r system bleidlais amgen.

Mae ymgyrchwyr o blaid y system newydd yn dweud ei fod yn fwy cynrychioliadol, ond mae ymgyrchwyr yn erbyn yn dadlau ei fod yn rhy gymhleth ac y bydd yn costio £250m.

Mae pôl piniwn gan ComRes ar ran papur newydd The Independent heddiw yn dangos fod yr ymgyrch ‘Na’ 32 pwynt ar y blaen ymysg yr rheini sy’n sicr o bleidleisio.

Roedd y bleidlais ‘Na’ ar 66% o’i gymharu â 34% i’r bleidlais ‘Ie’ – bwlch 12% yn fwy na’r wythnos diwethaf.

Dywedodd Ed Miliband, sy’n cefnogi’r bleidlais amgen, wedi dweud ei fod yn gyfle “unwaith mewn oes” i newid system bleidleisio Prydain er gwell.

Roedd y bleidlais yfory yn gyfle i bobol anfon neges at Llywodraeth y glymblaid ynglŷn â’u pryderon am doriadau, ffioedd dysgu, a newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

Ond roedd yn annog pobol i beidio cosbi’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, am dorri addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Dyw hyn ddim byd i’w wneud â Nick Clegg. Mae’n gyfle i newid ein gwleidyddiaeth er gwell ac yn gyfle unwaith-mewn-oes i wneud hynny,” meddai.