Margaret Thatcher
Mae Ed Miliband wedi dweud heddiw ei fod yn “gresynu” at benderfyniad darpar gynghorydd Llafur i wisgo crys-T oedd yn dweud y byddai’n dawnsio ar fedd Margaret Thatcher.

Roedd arweinydd y Blaid Lafur wedi cael tynnu ei lun â’i fraich o amgylch Keir Morrison, sydd yn ymgeisydd yn Ashfield, Swydd Nottingham.

Roedd Keir Morrison yn gwisgo crys-T gyda llun gwneud o fedd Margaret Thatcher arno, a’r slogan: “Bydd cenhedlaeth o undebwyr llafur yn dawnsio ar fedd Thatcher”.

Cynghori i beidio

Dywedodd David Miliband wrth Radio 5 Live: “Fe fyddwn i’n ei gynghori i beidio â gwisgo’r crys-T yna. Dw i ddim yn hoffi’r crys-T”.

“Dw i’n cwrdd â channoedd o bobol ym mhob cwr o’r wlad a dydw i ddim yn archwilio pob crys-T. Ond dydw i ddim yn meddwl y dylech chi ddawnsio ar fedd unrhyw un.

“Rydyn ni wedi siarad ag e ac mae’n gwybod nad dyna’r math o grys-T y dylai cynghorydd fod yn ei wisgo.”

Beirniadodd yr AS Ceidwadol James Wharton y crys-T gan ddweud y dylai “Ed Miliband ddiswyddo’r ymgeisydd yma, nid ymddangos braich ym mraich gydag e”.